Cynilion i blant
Dechreuwch eich siwrnai gynilo
Am beth mae eich plentyn chi’n breuddwydio? Helpwch nhw i gynilo ar ei gyfer.
Mae cynilo ar ran plentyn heddiw yn rhodd wych i’w dyfodol. Nid yn unig y gallan nhw ddechrau eu bywydau fel oedolion gyda rhywfaint o arian wedi’i gynilo, ond gall cyflwyno plant yn gynnar i’r syniad o gynilo eu helpu hefyd i ddysgu gwersi pwysig am arian.
I helpu i annog eich plant i gynilo, rydym wedi datblygu Cyfrif Cynilo i Blant – ar gyfer plant o enedigaeth hyd at 16 oed.
Os ydych yn rhiant neu’n warcheidwad plentyn ac yn aelod o'r undeb credyd, gallwch agor Cyfrif Cynilo i Blant i’w dechrau ar eu siwrnai gynilo.
Cwestiynau Cyffredin - Cyfrif Cynilo i Blant
Unrhyw gwestiwn? Edrychwch isod i weld os yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yn ein adran Cwestiynau Cyffredin.
Cliciwch ar “Dewch yn aelod” ar y ddewislen ar dop y dudalen neu galwch heibio i’ch cangen leol. Gall aelodau iau ymuno o adeg eu genedigaeth, serch hynny bydd angen ymddiriedolwr sy’n oedolyn ar bob cyfrif newydd i blant.
Ddim ar gyfer aelodau iau nes eu bod yn 16 oed, yna bydd y cyfrif yn uwchraddio’n awtomatig i gyfrif oedolion. Mae’n rhaid i bob aelod o Undeb Credyd Cambrian gadw £5 yn eu cyfrif cyfranddaliadau drwy’r amser – cymerir ffi aelodaeth blynyddol o £3 ar y dyddiad wnaethoch chi ymuno â’r undeb credyd.
Cynnydd mewn ffioedd o 1 Medi 2024 - darganfyddwch fwy yma
Gallwch gynilo cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch ond gall cyfrifon ddal uchafswm o £85,000.
Ydyn. Fel aelod o’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol, a gefnogir gan y Llywodraeth, caiff eich holl gynilion eu diogelu hyd at £85,000.
Dewiswch o ddebyd uniongyrchol, bancio ar-lein neu drwy’r ap. Neu beth am gynilo’n syth o’ch cyflog drwy’r Cynilon Cyflogres.
Rhybudd: Gall ad-daliad hwyr achosi problemau ariannol difrifol i chi. I gael help gyda'ch cyfrif, cysylltwch â'n tîm ar 0333 2000 601 neu ewch i www.cambriancu.com. I gael cyngor ariannol ewch i www.moneyhelper.org.uk