Cynilion

Cynilo gyda Ni

Adeiladwch ddyfodol gwell i chi’ch hun a’ch cymuned leol drwy gynilo gyda chynilion a benthyciadau Cambrian.

Manteision cynilo’n rheolaidd

Mae pob aelod yn elwa o gynilo’n rheolaidd. Mae’n caniatáu i aelodau weithio tuag at eu nodau ariannol ac yn ffordd o leddfu argyfwng ariannol annisgwyl. Mae cynilo’n rheolaidd yn lleihau’r angen i fenthyg o ffynonellau credyd costus. Cynilwch gyda’r undeb credyd ar gyfer eich gwyliau, car newydd, eich priodas, dillad ysgol, cronfa ar gyfer diwrnod glawog, penblwyddi neu’r Nadolig.

Mae’r gallu i arbed arian yn y byr dymor neu’r hirdymor yn gam pwysig ar y llwybr i sefydlu llesiant ariannol a datblygu asedau. Bydd hyd yn oed cynilion bach, rheolaidd yn tyfu ac yn eich helpu i dalu’r biliau annisgwyl hynny.

Mae pob £1 sy’n cael ei arbed yn gyfwerth â chyfranddaliad unigol.

Mae cynilion unigolyn hyd at £85,000 wedi’u diogelu’n llawn.

Caiff cynilion eu diogelu gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol.

Yr un diogelwch yn gwmws â banciau a chymdeithasau adeiladu.

Cynilwch yn syth o’ch cyflog gyda chynilion cyflogres.

Gallwch roi arian yn eich cyfrif yn hawdd gyda’n gwasanaethau bancio ar-lein.

Byddwch yn rhan o gwmni ariannol cydweithredol sy’n cefnogi’r gymuned.

Gallwch arbed uchafswm o £85,000 yn eich cyfrif undeb credyd.

Ein Polisi Cynilo

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o fuddsoddiadau moesegol, bydd eich cyfraniad, heb os, yn cael effaith bositif ar eich cymuned leol. Yn Undeb Credyd Cambrian, anelwn at ddarparu cwmni cynilo a benthyciadau cydweithredol o safon uchel, cynaliadwy a hygyrch, sy’n ymateb i anghenion y gymuned leol ac yn bwrw ati i atal effeithiau andwyol tlodi ac allgáu ariannol.

Mae’r undeb credyd yn cynnig dull cyfleus a diogel o gynilo. Mae bob £1 sy’n cael ei gynilo yn gyfwerth â chyfranddaliad unigol a gall aelodau gynilo cyn lleied neu gymaint ag y dymunant ond cânt eu hannog i gynilo’n rheolaidd. Gall cynilion gronni'n gyflym unwaith y bydd aelodau wedi dod yn gyfarwydd â gwneud hynny, a chaiff aelodau eu hannog i barhau i gynilo hyd yn oed wrth ad-dalu benthyciad.

Cynilion i blant

Mae cynilo ar gyfer plentyn heddiw yn anrheg wych ar gyfer y dyfodol. Nid yn unig y gallan nhw ddechrau eu bywydau fel oedolion gyda rhywfaint o gynilion, ond mae cael plant i ddechrau cynilo’n gynnar hefyd yn eu helpu i ddysgu gwersi pwysig am arian.

Cynilo ar gyfer y Nadolig

Gall y Nadolig fod yn gyfnod costus, llawn straen, ond gall rhywfaint o gynllunio ymlaen llaw wneud gwahaniaeth enfawr. Mae ein Cyfrif Cynilo ar gyfer y Nadolig wedi’i greu i wneud yn siŵr bod costau’r Nadolig o dan reolaeth. Gall cynilo nawr leihau straen y Nadolig a rhoi mwy o amser i chi dreulio gyda’ch anwyliaid.

Moneyworks Cynilwch Arbedion

Eisiau gwella eich llesiant ariannol? Cynilwch arian neu dalwch fenthyciadau yn syth o’ch cyflog

Cyfrif Raffl

Eisiau siawns o ennill wrth i chi gynilo?

Cynilwch yn rheolaidd mewn Cyfrif Raffl Fawr a chael cyfle i ennill Gwobrau Mawr bob mis!

Cwestiynau Cyffredin - Cynilion

Unrhyw gwestiwn? Edrychwch isod i weld os yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yn ein adran Cwestiynau Cyffredin.

Sut mae dod yn aelod?

Cliciwch ar “Dewch yn aelod” ar y ddewislen ar dop y dudalen neu galwch heibio i’ch cangen leol.

Oes unrhyw ffioedd aelodaeth?

Mae’n rhaid i bob aelod o Undeb Credyd Cambrian gadw £5 yn eu cyfrif cyfranddaliadau drwy’r amser – cymerir ffi aelodaeth blynyddol o £3 ar y dyddiad wnaethoch chi ymuno â’r undeb credyd.

Faint alla i ei gynilo?

Gallwch gynilo cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch ond gall cyfrifon ddal uchafswm o £85,000.

Ydy’r cynilion yn ddiogel?

Ydyn.  Fel aelod o’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol, a gefnogir gan y Llywodraeth, caiff eich holl gynilion eu diogelu hyd at £85,000.

Sut rydw i’n talu i mewn i’m cynilion?

Gallwch ddewis debyd uniongyrchol, bancio ar y we neu drwy’r ap. Neu beth am gynilo’n syth o'ch cyflog drwy’r Cynilion Cyflogres.

Rhybudd: Gall ad-daliad hwyr achosi problemau ariannol difrifol i chi. I gael help gyda'ch cyfrif, cysylltwch â'n tîm ar 0333 2000 601 neu ewch i www.cambriancu.com. I gael cyngor ariannol ewch i www.moneyhelper.org.uk