Cynilion i blant

Dechreuwch eich siwrnai gynilo

Am beth mae eich plentyn chi’n breuddwydio? Helpwch nhw i gynilo ar ei gyfer.

Mae cynilo ar ran plentyn heddiw yn rhodd wych i’w dyfodol. Nid yn unig y gallan nhw ddechrau eu bywydau fel oedolion gyda rhywfaint o arian wedi’i gynilo, ond gall cyflwyno plant yn gynnar i’r syniad o gynilo eu helpu hefyd i ddysgu gwersi pwysig am arian.

I helpu i annog eich plant i gynilo, rydym wedi datblygu Cyfrif Cynilo i Blant – ar gyfer plant o enedigaeth hyd at 16 oed.

Os ydych yn rhiant neu’n warcheidwad plentyn ac yn aelod o'r undeb credyd, gallwch agor Cyfrif Cynilo i Blant i’w dechrau ar eu siwrnai gynilo.

Helpu i gynilo ar gyfer gwyliau, teithiau ysgol, gwersi gyrru yn y dyfodol a mwy.

Ymunwch o adeg eu genedigaeth  

 

Ymunwch â Thystysgrif Geni

Dim Isafswm Cynilo

Bydd eich cynilion yn cael eu diogelu gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol

Cofiwch:
Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu prawf o'u hunaniaeth a'u bod yn byw neu'n gweithio yn Gymru. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer yr aelod iau a'r ymddiriedolwr sy'n oedolyn. Ar gyfer yr aelod iau, mae angen i ni weld pasbort neu dystysgrif geni.

Cwestiynau Cyffredin - Cyfrif Cynilo i Blant

Unrhyw gwestiwn? Edrychwch isod i weld os yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yn ein adran Cwestiynau Cyffredin.

Sut mae dod yn aelod?

Cliciwch ar “Dewch yn aelod” ar y ddewislen ar dop y dudalen neu galwch heibio i’ch cangen leol.  Gall aelodau iau ymuno o adeg eu genedigaeth, serch hynny bydd angen ymddiriedolwr sy’n oedolyn ar bob cyfrif newydd i blant.

Oes unrhyw ffioedd aelodaeth?

Ddim ar gyfer aelodau iau nes eu bod yn 16 oed, yna bydd y cyfrif yn uwchraddio’n awtomatig i gyfrif oedolion. Mae’n rhaid i bob aelod o Undeb Credyd Cambrian gadw £5 yn eu cyfrif cyfranddaliadau drwy’r amser – cymerir ffi aelodaeth blynyddol o £3 ar y dyddiad wnaethoch chi ymuno â’r undeb credyd.

Faint alla i ei gynilo?

Gallwch gynilo cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch ond gall cyfrifon ddal uchafswm o £85,000.

Ydy’r cynilon yn ddiogel?

Ydyn.  Fel aelod o’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol, a gefnogir gan y Llywodraeth, caiff eich holl gynilion eu diogelu hyd at £85,000.

Sut mae talu i mewn i’m cynilion?

Dewiswch o ddebyd uniongyrchol, bancio ar-lein neu drwy’r ap. Neu beth am gynilo’n syth o’ch cyflog drwy’r Cynilon Cyflogres.

Rhybudd: Gall ad-daliad hwyr achosi problemau ariannol difrifol i chi. I gael help gyda'ch cyfrif, cysylltwch â'n tîm ar 0333 2000 601 neu ewch i www.cambriancu.com. I gael cyngor ariannol ewch i www.moneyhelper.org.uk