Cyfrifon Cynilo Sefydlog
Cyfrif Cynilo Cyfradd Sefydlog Un Flwyddyn
Ewch ati i gynyddu eich cynilion gyda’n Cyfrif Cynilo Cyfradd Sefydlog Un Flwyddyn a chael llog o 5.00% AER! DYDDIAD CAU BLAENOROL 30 EBRILL 2024!
Gyda’n Cyfrif Cynilo Cyfradd Sefydlog Un Flwyddyn, gallwch roi eich arian i mewn gan wybod faint o log y bydd yr arian hwnnw’n ei ennill. Yr unig beth sydd angen ei wneud yw rhoi rhwng £1,000 a £5,000 i mewn, a chewch ennill 5.00% AER o gyfradd llog sefydlog.
Cyfradd llog
Llog Sefydlog o 5.00% AER
Blaendal lleiaf o £1,000
Blaendal o £1,000 i £5,000 yn unig
Tymor 12 mis
Ennill llog rhwng 1 Mai 2024 a 30 Ebrill 2025
Dyddiad cau ar gyfer adneuo
Rhaid i flaendaliadau fod yn eu lle cyn 30ain Ebrill 2024
Cwestiynau Cyffredin am Gynilo Cyfradd Sefydlog
Oes gennych chi gwestiwn? Edrychwch isod i weld a yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Lawrlwythwch yr Ap Symudol o’r App Store neu Google Play Store, cliciwch y botwm Ymuno a dilynwch y camau i ymaelodi.
Rhaid i bob aelod o Undeb Credyd Cambrian gadw £5 yn eu cyfrif cyfranddaliadau bob amser. Codir ffi aelodaeth flynyddol o £3 ar y diwrnod y gwnaethoch chi ymuno â’r undeb credyd.
Na, bydd y gyfradd llog yn sefydlog pan fydd y cyfrif yn cael ei agor, a bydd yn aros yr un fath nes bydd cyfnod y cynnyrch yn dod i ben.
Ni chaniateir alldynnu arian nes bydd y cyfnod penodol yn dod i ben, oni bai bod amgylchiadau eithriadol. Os bydd angen i chi alldynnu arian yn gynnar, byddwch yn colli’r llog rydych chi wedi’i ennill.
Mae dyddiad aeddfedu eich cyfrif yn seiliedig ar gyfnod eich cynnyrch a’r dyddiad yr agorwyd eich cyfrif. Bydd yr holl arian a’r llog yn cael ei ddychwelyd i brif gyfrif cyfranddaliadau’r aelodau ar ddiwedd y cyfnod.
Ydy. Fel aelod o’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol a gefnogir gan y Llywodraeth, mae cyfanswm eich cynilion yn cael eu diogelu hyd at £85,000.
Warning: Late repayment can cause you serious money problems. For help with your account please contact our team on 0333 2000 601 or visit www.cambriancu.com. For financial advice visit www.moneyhelper.org.uk