Farewill

Gofalu am yr hyn sy’n wirioneddol bwysig

Mae Cambrian Savings & Loans wedi creu partneriaeth â Farewill i gynnig gwasanaethau profiant, trefnu angladdau ac ysgrifennu ewyllys ar-lein am bris rhatach na’r arfer.

Farewill

Mae Farewill yn cynorthwyo i leddfu’r gofid yn sgil marwolaeth drwy wneud pethau’n symlach ac yn fwy fforddiadwy, er mwyn i chi helpu’r bobl sy’n annwyl i chi a dweud ffarwel mewn ffordd bersonol.

Certification
Mae Farewill yn darparu gwasanaethau ysgrifennu ewyllys, profiant a threfnu angladdau ac mae wedi ennill gwobrau am ei waith. Fel un o’r cwmnïau ysgrifennu ewyllys mwyaf poblogaidd yn y DU, maent wedi helpu miloedd o bobl i ysgrifennu eu hewyllys o gyfforddusrwydd eu cartref. Maent wedi ennill y wobr ‘Ysgrifennydd Ewyllys Cenedlaethol y Flwyddyn’ am y bedwaredd blynedd yn olynol, ac mae ganddynt sgôr ‘Rhagorol’ ar TrustPilot yn dilyn 13,950 o adolygiadau. Mae Farewill yn cyfuno cynnyrch hyfryd a thechnoleg glyfar gyda gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid. Maent yn ei gwneud hi’n symlach ac yn fwy fforddiadwy i fynegi eich dymuniadau, i ddiogelu eich anwyliaid, ac i adael etifeddiaeth barhaol i’r bobl rydych chi’n eu caru.

Ewyllys

Gwasanaeth ysgrifennu ewyllys ar-lein gorau’r deyrnas unedig

Ysgrifennwch eich ewyllys ar-lein mewn cyn lleied â 15 munud, gan ofalu am y pethau sy’n wirioneddol bwysig i chi. Cyfle i hawlio gostyngiad cychwynnol o 40% heddiw

Profiant

Gwasanaeth profiant rhad, sydd wedi ennill gwobrau

Os ydych chi’n gwneud cais am brofiant neu os oes angen cymorth arnoch i ddelio ag ystâd rhywun sydd wedi marw, mae arbenigwyr a phartneriaid cyfreithiol Farewill yma i helpu. Cyfle i hawlio gostyngiad o 5% heddiw

Angladdau

Dweud ffarwel yn syml.

Trefnwch amlosgiad uniongyrchol gyda chymorth gan dîm llwyddiannus Farewill, er mwyn i chi allu ffarwelio ar adeg ac mewn lle o’ch dewis. Cyfle i hawlio gostyngiad o 5% heddiw

©Farewill Ltd 2023 • Mae Farewill Ltd yn wasanaeth ar-lein sy’n darparu gwybodaeth a ffurfl enni cyfreithiol.  Nid yw Farewill yn gwmni cyfreithiol ac nid yw’n cymryd lle cyngor cyfreithiwr am faterion cymhleth sy’n ymwneud â chynllunio ystadau. Mae Undeb Credyd Cambrian yn gweithredu fel cyfl wynydd ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir gan Farewill. Mae Undeb Credyd Cambrian a Farewill yn gweithredu cyfran refeniw bob tro mae rhywun yn talu i ddefnyddio ewyllysiau neu wasanaethau profi ant Farewill. Mae Cambrian Savings & Loans yn arddull masnachu o Undeb Credyd Cambrian Cyfyngedig. Swyddfa Gofrestredig: 144 Conway Road, Llandudno, Conwy, LL31 9ND Rhif Cofrestru: 213672

Rhybudd: Gall ad-daliad hwyr achosi problemau ariannol difrifol i chi. I gael help gyda'ch cyfrif, cysylltwch â'n tîm ar 0333 2000 601 neu ewch i www.cambriancu.com. I gael cyngor ariannol ewch i www.moneyhelper.org.uk