Cynilwyr Nadolig

Amser gorau’r flwyddyn!

Dechreuwch gynilo heddiw er mwyn cael gwared ar y straen adeg y Nadolig

Gall y Nadolig fod yn gyfnod drud, llawn straen, ond gall ychydig o gynllunio ymlaen llaw wneud gwahaniaeth enfawr. Mae ein Cyfrif Cynilo ar gyfer y Nadolig wedi’i greu i wneud yn siŵr bod costau’r Nadolig o dan reolaeth. Gall cynilo nawr gymryd y straeon o’r Nadolig a rhoi mwy o amser i chi dreulio gyda’ch anwyliaid.

Mae’n anodd talu am y Nadolig o un mis o gyflog yn unig, felly mae’n gwneud synnwyr cynilo gymaint ag y gallwch ymlaen llaw.

Y cynharaf y dechreuwch chi gynilo, y lleiaf sydd angen i chi ei roi i’r naill ochr bob mis. Gall hyd yn oed swm bach dros ambell fis wneud gwahaniaeth mawr.

Gyda’n cyfrif Cynilo ar gyfer y Nadolig, gallwch gynilo o’r 1af o Ionawr hyd at y 1af o Hydref, pan gewch fynediad i drosglwyddo neu dynnu arian i’w wario ar wneud y Nadolig yn un arbennig.

Cynilwch o’r 1af Ionawr tan 1af Hydref

Cynilwch gyn lleied neu gymaint ag y dymunwch  

Yn hawdd a di-ffwdan

Lleihau straen

 

Cofiwch – os oes angen i chi gael mynediad at y cynilion cyn y 1af o Hydref, ni allwch ail-agor eich cyfrif Nadolig tan y mis Ionawr canlynol.  

Cwestiynau Cyffredin - Cyfrif Cynilo ar gyfer y Nadolig

Unrhyw gwestiwn? Edrychwch isod i weld os yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yn ein adran Cwestiynau Cyffredin.

Sut mae dod yn aelod?

Cliciwch ar “Dewch yn aelod” ar y ddewislen ar dop y dudalen neu galwch heibio i’ch cangen leol.

Oes unrhyw ffioedd aelodaeth?

Mae’n rhaid i bob aelod o Undeb Credyd Cambrian sy’n oedolyn gadw £5 yn eu cyfrif cyfranddaliadau drwy’r amser – cymerir ffi aelodaeth blynyddol o £3 ar y dyddiad wnaethoch chi ymuno â’r undeb credyd.

Pryd alla i gael mynediad at gynilion y Nadolig?

Mae eich cyfrif Cynilo ar gyfer y Nadolig wedi’i gloi rhwng 1af Ionawr a 1af Hydref. Os oes angen i chi dynnu arian o’ch cyfrif Nadolig cyn 1af Hydref, yna byddwn yn trosglwyddo’r balans llawn i’ch cyfrif ac yn cau eich cyfrif Nadolig. Gall aelodau ail-ddechrau eu cyfrif Nadolig o Ionawr 1af y flwyddyn ganlynol.

Ydy’r cynilion yn ddiogel?

Ydyn.  Fel aelod o’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol, a gefnogir gan y Llywodraeth, caiff eich holl gynilion eu diogelu hyd at £85,000.

Sut rydw i’n talu i mewn i’m cynilion?

Dewiswch o ddebyd uniongyrchol, bancio ar-lein neu drwy’r ap. Neu beth am gynilo’n syth o'ch cyflog drwy’r Cynilon Cyflogres.

Rhybudd: Gall ad-daliad hwyr achosi problemau ariannol difrifol i chi. I gael help gyda'ch cyfrif, cysylltwch â'n tîm ar 0333 2000 601 neu ewch i www.cambriancu.com. I gael cyngor ariannol ewch i www.moneyhelper.org.uk