Moneyworks - Benthyciad Cyflogres

Moneyworks Cymru - Benthyciadau trwy eich cyflog

Cael eich cyflogi gan un o'n partneriaid cyflogres? Gallwch fenthyg hyd at £15,000, ad-dalu'n uniongyrchol o'ch cyflog a chael gostyngiad o 1% y mis ar ein cyfraddau benthyciad! o 6.9% i 41.6% APR.

Y broses o wneud cais am fenthyciad

Cam

1

Dewch yn Aelod

Cwblhewch ein ffurflen aelodaeth – ymunwch â Chynilion a Benthyciadau Cambrian

Cam

2

Cyfrifwch eich benthyciad

Dewiswch faint rydych chi eisiau ei fenthyg a pha mor hir i'w dalu'n ôl. (Hyd at £15,000 dros 5 blynyddoedd)

Cam

3

Gwnewch gais am fenthyciad ar-lein

Rhowch eich ID llun a dogfennau prawf cyfeiriad i gwblhau'r cais.

Cam

4

Eisteddwch nôl ac ymlaciwch!

Fel arfer byddwn yn prosesu ceisiadau o fewn 3 diwrnod gwaith, cyn belled a'n bod yn derbyn y dogfennau perthnasol

Cyfrifiannell benthyciad

Gwnewch gais am fenthyciad heddiw gyda chyfraddau llog sy'n addas i chi!

Borrow between £200 - £2,500 @ 42.6% APR
Uchafswm y benthyciad :
Uchafswm hyd y benthyciad :

£

Term

Ad-dalu pa mor aml
£
APR
42.6%
#Ad-daliadau
Cyfanswm
£
APR
42.6%
#Ad-daliadau
Cyfanswm
£
APR
42.6%
#Ad-daliadau
Cyfanswm
£
APR
42.6%
#Ad-daliadau
Cyfanswm

At ddibenion darluniadol yn unig y mae’r cyfrifiannell hon, i roi crynodeb i chi, y benthyciwr o gost bosib y benthyciad. Ni all Undeb Credyd nag unrhyw un o’i staff fod yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriadau. Sylwer mai dim ond rhoi dyfynbris dangosol y mae’r cyfrifiannell hon a gall ad-daliadau go iawn amrywio.

Manteision benthyca wrth Undeb Credyd Cambrian

Benthyg hyd at £15,000.

Gostyngiad o 1% y mis ar ein cyfraddau benthyciad!

Dim ffioedd na chosbau ad-dalu’n gynnar a dim ffioedd cudd

Ad-daliadau’n hyblyg ac wedi’u teilwra i gyd-fynd ag anghenion yr unigolyn

Dim ond ar y balans gostyngol sy'n ddyledus y codir llog

Fel arfer byddwn yn prosesu ceisiadau o fewn 3 diwrnod gwaith, cyn belled a'n bod yn derbyn y dogfennau perthnasol

Mae gan bobl ffydd ynom ni

Edrychwch ar ein hadolygiadau diweddaraf ar Trustpilot

Enghraifft gynrychioliadol

Er hwylustod, ceir enghraifft gynrychioliadol isod o’r costau sy’n gysylltiedig â benthyg swm penodol.

Swm y benthyciad

£1000

Cyfradd llog - APR

41.6%

Hyd y benthyciad

12 mis

Cyfanswm y llog

£202

Ad-daliad misol

£100

Cyfanswm cost y credyd

£1,202

Gofynion Benthyciad Cynilion Cyflogres

  • Dewch yn aelod o Undeb Credyd Cambrian
  • Gwnewch gais ar-lein
  • ID Ffotograff - Trwydded Yrru neu Basbort
  • Hyd at dri mis Prawf Cyfeiriad megis cytundeb Tenantiaeth, bil cyfleustodau neu fil Treth y Cyngor.
  • Hyd at dri mis o gyfriflenni banc, yn dibynnu ar werth y cais
  • Hyd at dri mis o slipiau cyflog yn dibynnu ar werth y cais
  • Efallai y bydd angen rhoi gwybod am fudd-daliadau
  • Rhaid cael eich cyflogi gan Bartner Cyflogres undeb credyd Cambrian
  • Gellir gofyn am wybodaeth ychwanegol hefyd os yw incwm partneriaid yn cael ei ychwanegu at ddibenion y benthyciad.
Ymgeisiwch

Cwestiynau Cyffredin - Benthyciadau

Unrhyw gwestiwn? Edrychwch isod i weld os yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yn ein adran Cwestiynau Cyffredin.

Faint alla i ei fenthyg?

Gallwch wneud cais i fenthyg cyn lleied neu gymaint ag sydd ei angen.  Benthyg hyd at £15,000. Mae’r holl benderfyniadau ynglŷn â benthyciadau yn seiliedig ar eich incwm, eich gwariant a’ch gallu i ad-dalu.

Ydw i’n gallu gwneud cais am fenthyciad ar unwaith?

Gallwch wneud cais i ddod yn aelod ac am fenthyciad ar yr un pryd. Ar hyn o bryd, nid yw Undeb Credyd Cambrian yn ei gwneud yn ofynnol i aelod gynilo cyn iddyn nhw wneud cais am fenthyciad.

Pa mor hir fydd y cais am fenthyciad yn ei gymryd?

Fel arfer byddwn yn prosesu ceisiadau o fewn 3 diwrnod gwaith, cyn belled a'n bod yn derbyn y dogfennau perthnasol

Pa ddogfennau sydd eu hangen arnaf i wneud cais?

I wneud cais am fenthyciad mae angen y canlynol arnom:

ID llun cyfoes:

  • Pasbort
  • Trwydded Yrru

Prawf o gygeiriad

  • Llythyr budd-dal
  • Cytundeb tenantiaeth
  • Bil cyfleustodau
  • Bil treth cyngor

Mar angen 3 mis o dystiolaeth o gyfeiriad ar gyfer eith cais.

Os nad oes gennych ID llun, peidiwch a phoeni, efallai y bydd angen tystilaeth ychwanegol o'r cyfeiriad arnom.

Ydw i’n gallu ad-dalu fy menthyciad yn gynnar?

Ydych, gallwch ad-dalu eich benthyciad yn llawn unrhyw bryd heb gosb. Gallwch hefyd wneud taliadau ychwanegol i leihau gwerth y benthyciad sy’n weddill ar unrhyw adeg – eto heb gosb.

Oes unrhyw ffioedd aelodaeth?

Mae’n rhaid i bob aelod o Undeb Credyd Cambrian gadw £5 yn eu cyfrif cyfranddaliadau drwy’r amser – cymerir ffi aelodaeth blynyddol o £3 ar y dyddiad wnaethoch chi ymuno â’r undeb credyd.