Moneyworks Cynilwch Arbedion
Moneyworks Cymru - Cynilwch drwy eich cyflog
Eisiau gwella eich llesiant ariannol? Cynilwch arian neu dalwch fenthyciadau yn syth o’ch cyflog
Ydych chi'n cael eich cyflogi gan un o'n partneriaid?
Mae gan Undeb Credyd Cambrian drefniadau gyda dros 40 o gwmnïau lleol, awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd i alluogi ein haelodau i wneud arbedion neu dalu benthyciadau yn uniongyrchol o’u cyflogau. Dewiswch eich cyflogwr, lawrlwythwch, cwblhewch y ffurflen a'i hanfon at payroll@cambriancu.com gyda'r swm yr hoffech ei gynilo neu ei dalu tuag at fenthyciad neu hyd yn oed y ddau.
Dod o hyd i’ch cyflogwr
Pam ddylwn i gynilo arian o’r gyflogres?
Mae bod yn rhan o gynllun cyflogres o fudd i staff a chyflogwyr.
Cynilwch yn syth o’ch cyflog gyda Chynilion a Benthyciadau Cambrian.
Gwyliwch eich cynilion yn tyfu gyda throsglwyddiadau awtomatig yn syth o'ch cyflog i’ch cyfrif cynilo.
Adeiladwch wytnwch ariannol drwy wella eich llesiant ariannol.
Taliadau di-straen yn syth o’ch cyflog, fel na fyddwch byth yn colli
ad-daliad.
Mae benthyciadau sy’n cael eu talu o’ch cyflog yn derbyn disgownt misol o 1% ar ein cyfraddau llog arferol.
Mae gan bobl ffydd ynom ni
Edrychwch ar ein hadolygiadau diweddaraf ar Trustpilot
Cwestiynau Cyffredin – Cynilion Cyflogres
Unrhyw gwestiwn? Edrychwch isod i weld os yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yn ein adran Cwestiynau Cyffredin.
Cliciwch ar “Dewch yn aelod” ar y ddewislen ar dop y dudalen neu galwch heibio i’ch cangen leol.
Mae’n rhaid i bob aelod o Undeb Credyd Cambrian gadw £5 yn eu cyfrif cyfranddaliadau drwy’r amser – cymerir ffi aelodaeth blynyddol o £3 ar y dyddiad wnaethoch chi ymuno â’r undeb credyd.
Gallwch gynilo cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch ond gall cyfrifon ddal uchafswm o £85,000.
Gall ceisiadau am aelodaeth a benthyciadau gael eu gwneud ar yr un pryd. Ar hyn o bryd, nid yw Undeb Credyd Cambrian yn ei gwneud yn ofynnol i aelod gynilo cyn iddyn nhw wneud cais am fenthyciad.
Na – oni bai eich bod yn dewis dweud wrthyn nhw. Os caiff ad-daliadau eu tynnu o’r gyflogres, bydd eich cyflogwr ond yn gwybod bod arian yn cael ei anfon at Undeb Credyd Cambrian. Ni fyddan nhw’n gwybod os yw’r arian yn cael ei anfon i ad-dalu benthyciad neu i ychwanegu at eich cynilion.