Benthyciad Cychwynnol
Benthyciad tro cyntaf?
Erioed wedi benthyca o'r blaen? Dim problem. Gwnewch gais am fenthyciad cychwynnol a benthyg hyd at £1,000 ar 42.6% APR.
Y broses o wneud cais am fenthyciad
Cam
1
Dewch yn Aelod
Cwblhewch ein ffurflen aelodaeth – ymunwch â Chynilion a Benthyciadau Cambrian
Cam
2
Cyfrifwch eich benthyciad
Dewiswch faint rydych chi eisiau ei fenthyg a pha mor hir i'w dalu'n ôl. (o £50 - £1,000 dros 24 mis)
Cam
3
Gwnewch gais am fenthyciad ar-lein
Cwblhewch eich cais gyda’r dogfennau perthnasol amgaeedig
Cam
4
Eisteddwch nôl ac ymlaciwch!
Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith gyda'n penderfyniad
Cyfrifiannell benthyciad
Gwnewch gais am fenthyciad heddiw gyda chyfraddau llog sy'n addas i chi!
Uchafswm hyd y benthyciad :
42.6%
42.6%
42.6%
At ddibenion darluniadol yn unig y mae’r cyfrifiannell hon, i roi crynodeb i chi, y benthyciwr o gost bosib y benthyciad. Ni all Undeb Credyd nag unrhyw un o’i staff fod yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriadau. Sylwer mai dim ond rhoi dyfynbris dangosol y mae’r cyfrifiannell hon a gall ad-daliadau go iawn amrywio.
Manteision benthyca wrth Undeb Credyd Cambrian
Y swm lleiaf y gellir ei fenthyg yw £50 gyda chyfraddau ad-dalu â llog fforddiadwy
Proses hawdd i wneud cais ar-lein neu mewn cangen
Dim ffioedd na chosbau ad-dalu’n gynnar a dim ffioedd cudd
Ad-daliadau’n hyblyg ac wedi’u teilwra i gyd-fynd ag anghenion yr unigolyn
Dim ond ar y balans gostyngol sy'n ddyledus y codir llog
Gwneir penderfyniadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith
Mae gan bobl ffydd ynom ni
Edrychwch ar ein hadolygiadau diweddaraf ar Trustpilot
Enghraifft gynrychioliadol
Er hwylustod, ceir enghraifft gynrychioliadol isod o’r costau sy’n gysylltiedig â benthyg swm penodol.
Swm y benthyciad
£500
Cyfradd llog - APR
42.6%
Hyd y benthyciad
12 mis
Cyfanswm y llog
£103
Hyd y benthyciad
£50
Cyfanswm cost y credyd
£603
Gofynion Benthyciad Cychwynnol
- Dewch yn aelod o Undeb Credyd Cambrian
- Gwnewch gais ar-lein
- Hyd at dri mis o gyfriflenni banc, yn dibynnu ar werth y cais
- Hyd at dri mis o slipiau cyflog yn dibynnu ar werth y cais
- Efallai y bydd angen rhoi gwybod am fudd-daliadau
- Gellir gofyn am wybodaeth ychwanegol hefyd os yw incwm partneriaid yn cael ei ychwanegu at ddibenion y benthyciad.
Cwestiynau Cyffredin - Benthyciadau
Unrhyw gwestiwn? Edrychwch isod i weld os yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yn ein adran Cwestiynau Cyffredin.
Gallwch wneud cais i fenthyg cyn lleied neu gymaint ag sydd ei angen. Uchafswm y benthyciad diwarant yw £15,000 a’r lleiafswm yw £50. Mae’r holl benderfyniadau ynglŷn â benthyciadau yn seiliedig ar eich incwm, eich gwariant a’ch gallu i ad-dalu.
Gallwch wneud cais i ddod yn aelod ac am fenthyciad ar yr un pryd. Ar hyn o bryd, nid yw Undeb Credyd Cambrian yn ei gwneud yn ofynnol i aelod gynilo cyn iddyn nhw wneud cais am fenthyciad.
Gan amlaf, byddwn wedi cwblhau a rhoi’r arian yn ei le o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Ydych, gallwch ad-dalu eich benthyciad yn llawn unrhyw bryd heb gosb. Gallwch hefyd wneud taliadau ychwanegol i leihau gwerth y benthyciad sy’n weddill ar unrhyw adeg – eto heb gosb.
Mae’n rhaid i bob aelod o Undeb Credyd Cambrian gadw £5 yn eu cyfrif cyfranddaliadau drwy’r amser – cymerir ffi aelodaeth blynyddol o £3 ar y dyddiad wnaethoch chi ymuno â’r undeb credyd.