Benthyciadau
Beth bynnag yw'r rheswm, rydyn ni yma i helpu
Benthyciadau teg, fforddiadwy pan fyddwch eu hangen fwyaf. Benthyg o £50 - £15,000 o 5.9% i 42.6% APR.



Benthyciad Cynilion Cyflogres
Cael eich cyflogi gan un o'n partneriaid cyflogres? Cael gostyngiad o 1% ar ein cyfraddau benthyciad
Datgloi'r buddion unigryw sydd ar gael i chi trwy ddod yn aelod heddiw ac ymuno â'n hundeb credyd i gefnogi'r gymuned.
Cyfrifiannell benthyciad
Gwnewch gais am fenthyciad heddiw gyda chyfraddau llog sy'n addas i chi!
Uchafswm hyd y benthyciad :
42.6%
42.6%
42.6%
At ddibenion darluniadol yn unig y mae’r cyfrifiannell hon, i roi crynodeb i chi, y benthyciwr o gost bosib y benthyciad. Ni all Undeb Credyd nag unrhyw un o’i staff fod yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriadau. Sylwer mai dim ond rhoi dyfynbris dangosol y mae’r cyfrifiannell hon a gall ad-daliadau go iawn amrywio.
Manteision benthyca wrth Undeb Credyd Cambrian
Y swm lleiaf y gellir ei fenthyg yw £50 gyda chyfraddau ad-dalu â llog fforddiadwy
Proses hawdd i wneud cais ar-lein neu mewn cangen
Dim ffioedd na chosbau ad-dalu’n gynnar a dim ffioedd cudd
Ad-daliadau’n hyblyg ac wedi’u teilwra i gyd-fynd ag anghenion yr unigolyn
Dim ond ar y balans gostyngol sy'n ddyledus y codir llog
Gwneir penderfyniadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith
Mae gan bobl ffydd ynom ni
Edrychwch ar ein hadolygiadau diweddaraf ar Trustpilot
Cwestiynau Cyffredin - Benthyciadau
Unrhyw gwestiwn? Edrychwch isod i weld os yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yn ein adran Cwestiynau Cyffredin.
Gallwch wneud cais i fenthyg cyn lleied neu gymaint ag sydd ei angen. Uchafswm y benthyciad diwarant yw £15,000 a’r lleiafswm yw £50. Mae’r holl benderfyniadau ynglŷn â benthyciadau yn seiliedig ar eich incwm, eich gwariant a’ch gallu i ad-dalu.
Gallwch wneud cais i ddod yn aelod ac am fenthyciad ar yr un pryd. Ar hyn o bryd, nid yw Undeb Credyd Cambrian yn ei gwneud yn ofynnol i aelod gynilo cyn iddyn nhw wneud cais am fenthyciad.
Gan amlaf, byddwn wedi cwblhau a rhoi’r arian yn ei le o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Ydych, gallwch ad-dalu eich benthyciad yn llawn unrhyw bryd heb gosb. Gallwch hefyd wneud taliadau ychwanegol i leihau gwerth y benthyciad sy’n weddill ar unrhyw adeg – eto heb gosb.
Mae’n rhaid i bob aelod o Undeb Credyd Cambrian gadw £5 yn eu cyfrif cyfranddaliadau drwy’r amser – cymerir ffi aelodaeth blynyddol o £3 ar y dyddiad wnaethoch chi ymuno â’r undeb credyd.