Select Language       
0333 2000 601

Gynilo ar gyfer y Nadolig neu unrhyw achlysur arbennig

Yn ôl Ann Francis o Undeb Credyd Cambrian, tydy hi byth yn rhy gynnar ichi gynilo ar gyfer y Nadolig neu unrhyw achlysur arbennig.

Os ydych chi rŵan yn dioddef effaith yr holl wario yn ystod Nadolig 2017, nid chi ydy’r unig un.

Yn ôl elusen National Debtline sy’n rhoi cyngor ar ddyledion, mae 7.9 miliwn o bobl ym Mhrydain wedi dweud y byddan nhw ar ei hôl hi gyda’u harian gan eu bod nhw wedi gorwario yn ystod tymor y Nadolig.

Fel undeb credyd, ein bwriad ydy helpu pobl i gynilo arian, naill ai drwy roi ychydig o’r neilltu neu drwy osgoi benthyciadau gyda chyfraddau llog uchel. Gyda hynny mewn golwg, fe allwch chi ddychmygu pa mor hapus oeddem ni fod pobl wedi tynnu’r swm mwyaf erioed o gynilion o’u cyfrifon – £600,000 – wrth baratoi at Nadolig 2017.

Pan fydd arian yn brin, gall feddwl am gynilo arian fod yn anodd. Ond mae rhoi ychydig o arian o’r neilltu, faint bynnag fyddwch chi’n ei roi, yn un o’r penderfyniadau ariannol mwyaf doeth allwch chi ei wneud.

Gall dim ond £10 yr wythnos droi yn £500 mewn llai na blwyddyn.

Os ydy hynny’n swnio’n anodd, dyma rai newidiadau cynnil fydd o gymorth ichi gynilo’r £10 hwnnw heb gael effaith ar eich bywyd bob dydd:

  • Edrychwch ar eich biliau misol: Ewch i safle gymharu yn rheolaidd i weld beth ydy’r cynigion gorau ar gyfer trydan a nwy. Mae hi’n hawdd gorwario ac fe all taliadau misol gynyddu heb inni sylwi. Yn ddiweddar, bu i’r rheolydd ynni Ofgem amcangyfrif bod 3 o bob 5 cartref yn talu £300 yn fwy ar gyfartaledd na beth oedd ei angen ar gyfer eu trydan a’u nwy.
  • Ffôn: Unwaith eto, ewch i’r safleoedd cymharu oherwydd gall fod cynigion llawer gwell ar gyfer eich ffôn symudol, band eang a ffôn tŷ. Yn ôl uSwitch, gall teulu arferol arbed £69 ar eu biliau band eang drwy newid darparwr pan ddaw eu cytundeb i ben. Mae cytundebau ffonau symudol gan amlaf yn dod i ben ar ôl 12 neu 24 mis, felly os ydych chi’n hapus gyda’ch ffôn, anwybyddwch yr awydd dros uwchraddio a dewiswch gynnig SIM yn unig ac fe allwch chi arbed degau o bunnoedd bob mis.
  • Yswiriant: Peidiwch byth a’i adnewyddu yn awtomatig. Mae hi bob tro yn werth edrych i weld beth ydy’r dewisiadau eraill sydd ar gael. Yn ddiddorol iawn, mae Compare the Market yn dweud fod ei ddata yn dangos mai tair wythnos cyn dyddiad adnewyddu yswiriant gyrrwr ydy’r amser gorau i gael y premiwm gorau ac fe all newid darparwr bryd hynny helpu i arbed £365.08 ar gyfartaledd i yrwyr.
  • Gwnewch ginio: Bydd prynu eich cinio o’r siop yn costio £3 neu £4 ichi y dydd. Gwnewch eich cinio eich hun. Bydd hyn yn arbed arian ichi ac mae’n siŵr y bydd yn blasu’n well hefyd! Dyna arbediad hawdd o £10 bob wythnos.
  • Cynlluniwch brydau bwyd eich wythnos o flaen llaw: Gall siopa am yr hyn rydych chi wirioneddol ei angen yn unig eich helpu chi i arbed arian a lleihau gwastraff bwyd. Bu i ymchwil y Gwasanaeth Cynghori Ariannol ddarganfod bod 60% o bobl sy’n mynd â rhestr siopa gyda nhw i’r archfarchnad yn dweud fod hynny’n arbed arian iddyn nhw. Felly, ewch â rhestr gyda chi a cheisiwch osgoi’r holl gynigion ar bob cornel!
  • Bargeinion arian yn ôl wrth y cownter: Yma yn Undeb Credyd Cambrian rydym ni wedi lansio cyfrif Engage newydd, sy’n dod gyda cherdyn debyd rydych chi’n rhoi arian arno o flaen llaw. Mae’r cerdyn Engage yn cynnwys arian yn ôl neu ostyngiadau oddi ar bethau fyddwch chi’n eu prynu o siopau manwerthu mawr, er enghraifft, Argos, Asda a Marks and Spencer. Gyda’r cynlluniau hyn, mae arian bach yn troi i fod yn arian mawr. Er enghraifft, os ewch chi i Asda a gwario £149.53 ar fwyd, sef y swm arferol i deuluoedd ym Mhrydain, byddai defnyddio’r cerdyn Engage yn arwain at werth £233.28 o arian yn ôl y flwyddyn.

Dim ond rhai syniadau ydy’r rhain all eich helpu chi i arbed llawer mwy na £10 yr wythnos, ond peidiwch ag anghofio mai’r darn pwysicaf ydy rhoi’r arian hwnnw mewn cyfrif. Trwy wneud hynny, byddwch chi’n barod ar gyfer y Nadolig neu ddiwrnod gwlyb.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Back to the top