Cerdyn Engage

Cerdyn debyd Visa Clasurol a Chyfredol Engage

Dim gwiriadau credyd a dim ceisiadau hir. Mae’r cyfrif digidol Engage ar gael i holl aelodau Undeb Credyd a Banc Cymunedol yn unig… beth bynnag fo’u hamgylchiadau ariannol.

Cerdyn Engage

Cyfrifon a cherdyn Visa Clasurol a Chyfredol

Certification
Engage yw’r brand cenedlaethol ar gyfer holl wasanaethau bancio a gwasanaethau talu’r undeb credyd. Mae Engage yn gerdyn debyd Visa a chyfrif moesegol sydd o fudd go iawn i aelod yr undeb credyd. Does dim costau cudd annisgwyl a cheir gwobrwyon gwych sy'n golygu y gallwch arbed arian wrth siopa bob dydd. Mae cyfrif a cherdyn debyd Visa Engage yn gweithio’n gwmws fel cyfrif banc y stryd fawr, ond mae ar gael wrth eich undeb credyd Engage achrededig yn unig. Gallwch ddefnyddio eich cerdyn Engage i siopa, i dalu biliau ac i arbed arian gyda’n rhaglen arian-yn-ôl.

Cyfrif Clasurol Engage

  • AM DDIM i wneud cais am gerdyn (gallwch gael cerdyn ychwanegol am ddim hefyd)
  • AM DDIM ar gyfer unrhyw beth a brynir o fewn y DU
  • Ap symudol AM DDIM ar gael ar Android ac iPhone
  • Adnodd Rheoli Amlen Arian Engage
  • Enillwch hyd at 15% o arian-yn-ôl gyda phartneriaid gwobrwyo Engage
  • Dim ond £0.75 am dynnu arian o beiriant ATM yn y DU
  • Ffioedd rheoli isel
  • AM DDIM i greu archeb sefydlog
  • Rhybuddion e-bost AM DDIM i’ch helpu i gadw golwg ar eich gwariant
  • Ffi reoli o £2 fisol

Cyfrif Premiwm Engage

  • AM DDIM i wneud cais am gerdyn (gallwch gael cerdyn ychwanegol am ddim hefyd)
  • AM DDIM ar gyfer unrhyw beth a brynir o fewn y DU
  • Ap symudol AM DDIM ar gael ar Android ac iPhone
  • Adnodd Rheoli Amlen Arian Engage
  • Enillwch hyd at 15% o arian-yn-ôl gyda phartneriaid gwobrwyo Engage
  • Dim ond £0.75 am dynnu arian o beiriant ATM yn y DU
  • Ffioedd rheoli isel
  • AM DDIM i greu archeb sefydlog
  • Rhybuddion e-bost AM DDIM i’ch helpu i gadw golwg ar eich gwariant
  • Cyfleuster debyd uniongyrchol
  • £6.95 o ffi reoli fisol

Gwobrau Engage

Mae gwobrau Engage yn cynnig gwobrau arian yn ôl ar y stryd fawr ac ar-lein gwych pan fyddwch chi'n defnyddio'ch cerdyn debyd Engage Visa, mae'n haws fyth gweld faint o arian yn ôl y gallech chi ei ennill bob mis gyda'n cyfrifiannell gwobrau.

Gweld eich gwobrau yma

Ymgeisiwch

Amlen Engage – Adnodd Rheoli Arian

Eisiau talu eich rhent, morgais, cyfleustodau a biliau ffôn heb drafferth na straen?
Daw eich cyfrif Engage â nodwedd arbennig sy’n caniatáu i chi roi eich arian mewn Amlenni rhithiol fel na allwch wario’r arian sydd ei angen i dalu biliau hanfodol yn ddamweiniol. Mae amlenni yn syml i'w creu a gall deiliad y cyfrif neu staff yr undeb credyd wneud hynny. Ar ôl eu creu, does dim angen i chi boeni amdanyn nhw. Bydd arian yn cael ei neilltuo’n awtomatig pan fydd yn cyrraedd eich cyfrif.

Lawrlwythwch ein Canllaw Cymorth Amlenni isod

LAWRLWYTHWCH

Rhybudd: Gall ad-daliad hwyr achosi problemau ariannol difrifol i chi. I gael help gyda'ch cyfrif, cysylltwch â'n tîm ar 0333 2000 601 neu ewch i www.cambriancu.com. I gael cyngor ariannol ewch i www.moneyhelper.org.uk