Cerdyn Engage
Cerdyn debyd Visa Clasurol a Chyfredol Engage
Dim gwiriadau credyd a dim ceisiadau hir. Mae’r cyfrif digidol Engage ar gael i holl aelodau Undeb Credyd a Banc Cymunedol yn unig… beth bynnag fo’u hamgylchiadau ariannol.
Cerdyn Engage
Cyfrifon a cherdyn Visa Clasurol a Chyfredol
Rheoli eich cyfrif wrth i chi fynd
Mae ein ap symudol rhad ac am ddim yn ei gwneud hi’n haws cael mynediad i’ch cyfrif ac i reoli eich arian lle bynnag y byddwch chi, pryd bynnag y dymunwch.

- Gwiriwch eich balans heb orfod talu tâl o 10c mewn peiriant ATM
- Edrychwch ar eich trafodiadau
- Sefydlwch eich Adnodd Rheoli Arian i dalu biliau neu i roi arian naill ochr
- Gofynnwch am arian o gyfrifon Engage eraill
- Anfonwch arian i gyfrifon banc eraill neu gyfrifon Engage eraill
- Edrychwch ar y gwobrwyon arian-yn-ôl diweddaraf
- Dewch o hyd i’ch PayPoint agosaf
- Diweddarwch eich gwybodaeth
- Gofynnwch am alwad wrth Dîm Gwasanaethau Cwsmer Engage
Gwobrwyon Engage
Gwobrwyon a chynigion gwych ar gael gan siopau cenedlaethol a lleol pan fyddwch yn defnyddio eich cerdyn debyd Visa Engage. Gallwch gael hyd at 15% o arian-yn-ôl bob tro y byddwch yn defnyddio eich cerdyn debyd Visa Engage i dalu am nwyddau yn unrhyw un o’r siopau sy’n cymryd rhan.
Manwerthwr
Argos | 4% |
Asda | 3% |
B&Q | 4% |
Belgo | 8% |
Bella Italia | 8% |
Café Rouge | 8% |
Carpetright | 8% |
Debenhams | 4% |
e-Careers | 15% |
e-careers.lifestyle | 15% |
Ernest Jones | 7% |
Goldsmiths | 12% |
H Samuel | 7% |
Halfords | 7% |
Hotel Exclusive | 5% |
Manwerthwr
Hotel Stay UK Ltd | 5% |
Inspire Europe Ltd | 6% |
Laithwaite’s Wine | 6% |
Leslie | 7% |
Lovephotobooks | 15% |
M&S | 3.5% |
Nature’s Sunshine | 12% |
New Look | 7% |
Pizza Express | 8% |
Sainsbury’s | 4% |
SpaFinder Wellness | 8% |
Virgin Experience Days | 15% |
Wyevale | 7% |
Yo Sushi | 10% |
Amlen Engage – Adnodd Rheoli Arian
Eisiau talu eich rhent, morgais, cyfleustodau a biliau ffôn heb drafferth na straen?
Daw eich cyfrif Engage â nodwedd arbennig sy’n caniatáu i chi roi eich arian mewn Amlenni rhithiol fel na allwch wario’r arian sydd ei angen i dalu biliau hanfodol yn ddamweiniol. Mae amlenni yn syml i'w creu a gall deiliad y cyfrif neu staff yr undeb credyd wneud hynny. Ar ôl eu creu, does dim angen i chi boeni amdanyn nhw. Bydd arian yn cael ei neilltuo’n awtomatig pan fydd yn cyrraedd eich cyfrif.
Lawrlwythwch ein Canllaw Cymorth Amlenni isod
LAWRLWYTHWCH