Moneyworks Cynilwch Arbedion

Moneyworks Cymru - Cynilwch drwy eich cyflog

Eisiau gwella eich llesiant ariannol? Cynilwch arian neu dalwch fenthyciadau yn syth o’ch cyflog

Ydych chi'n cael eich cyflogi gan un o'n partneriaid?

Mae gan Undeb Credyd Cambrian drefniadau gyda dros 40 o gwmnïau lleol, awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd i alluogi ein haelodau i wneud arbedion neu dalu benthyciadau yn uniongyrchol o’u cyflogau.

Yn syml, lawrlwythwch ffurflen didynnu cyflogres a'i hanfon at payroll@cambriancu.com a dechrau heddiw!

Lawrlwythwch

  • Adferiad Recovery
  • ADRA
  • Affinity Healthcare
  • Airbus
  • Archwood Group
  • Ardagh
  • AVOW – Association Of Voluntary Organisations Of Wrexham
  • Baavet
  • Bangor University
  • Betsi Cadwalar University Health Board
  • CAIS
  • Cartrefi Cymru
  • Cartrefi Conwy
  • Clifford Jones Timber
  • Clwyd Alyn
  • Cooptions
  • Conwy Connect For Learning Disabilities
  • Conwy County Borough Council
  • Conwy County Borough Council Teachers
  • Craig Bragdy Design
  • CVSC
  • Cymryd Rhan
  • Denbighshire County Council
  • Flintshire County Council
  • Glyndwr University
  • Grwp Cynefin
  • Grwp Llandrillo Menai
  • Gwynedd Council
  • Hafal
  • Homeinstead
  • HYDRO Aluminium Deeside
  • Isle Of Anglesey County Council
  • Jackson Fire & Security Solutions
  • Kim Inspire
  • Mark Water Pumps Limited
  • Martines Childcare
  • Mon CF
  • Natural Resources Wales
  • Net World Sports
  • Newtown And Llanllwchaiarn Town Council
  • North Wales Housing Association
  • Nu Instruments
  • Pennysmart CIC
  • Pilgrim's UK Lamb Ltd
  • Powys County Council
  • Powys Teaching Health Board
  • Public Health Wales
  • QIOPTIQ
  • Splash Community Trust Plas Madoc
  • South Denbighshire Community Partnerships
  • Thorncliffe Building Supplies
  • TRB
  • Velindre University NHS Trust
  • WCADA
  • WCVA
  • Welsh Ambulance Service
  • Welsh Government
  • Welsh Women’s Aid
  • Wrexham County Borough Council

Pam ddylwn i gynilo arian o’r gyflogres?

Mae bod yn rhan o gynllun cyflogres o fudd i staff a chyflogwyr.

Cynilwch yn syth o’ch cyflog gyda Chynilion a Benthyciadau Cambrian.

Gwyliwch eich cynilion yn tyfu gyda throsglwyddiadau awtomatig yn syth o'ch cyflog i’ch cyfrif cynilo.

Adeiladwch wytnwch ariannol drwy wella eich llesiant ariannol.

Taliadau di-straen yn syth o’ch cyflog, fel na fyddwch byth yn colli
ad-daliad.

Mae benthyciadau sy’n cael eu talu o’ch cyflog yn derbyn disgownt misol o 1% ar ein cyfraddau llog arferol.

Dewch yn bartner cyflogres newydd

Dewch yn bartner cyflogres heddiw a helpwch i gefnogi eich llesiant ariannol chi a’ch tîm.

Mae gan bobl ffydd ynom ni

Edrychwch ar ein hadolygiadau diweddaraf ar Trustpilot

Cwestiynau Cyffredin – Cynilion Cyflogres

Unrhyw gwestiwn? Edrychwch isod i weld os yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yn ein adran Cwestiynau Cyffredin.

Sut mae dod yn aelod?

Cliciwch ar “Dewch yn aelod” ar y ddewislen ar dop y dudalen neu galwch heibio i’ch cangen leol.

Oes unrhyw ffioedd aelodaeth?

Mae’n rhaid i bob aelod o Undeb Credyd Cambrian gadw £5 yn eu cyfrif cyfranddaliadau drwy’r amser – cymerir ffi aelodaeth blynyddol o £3 ar y dyddiad wnaethoch chi ymuno â’r undeb credyd.

Faint alla i gynilo?

Gallwch gynilo cyn lleied neu gymaint ag y dymunwch ond gall cyfrifon ddal uchafswm o £85,000.

Pa mor hir y mae’n rhaid i fi gynilo cyn gwneud cais am fenthyciad?

Gall ceisiadau am aelodaeth a benthyciadau gael eu gwneud ar yr un pryd. Ar hyn o bryd, nid yw Undeb Credyd Cambrian yn ei gwneud yn ofynnol i aelod gynilo cyn iddyn nhw wneud cais am fenthyciad.

A fydd fy nghyflogwr yn gwybod os ydw i’n cael benthyciad?

Na – oni bai eich bod yn dewis dweud wrthyn nhw. Os caiff ad-daliadau eu tynnu o’r  gyflogres, bydd eich cyflogwr ond yn gwybod bod arian yn cael ei anfon at Undeb Credyd Cambrian. Ni fyddan nhw’n gwybod os yw’r arian yn cael ei anfon i ad-dalu benthyciad neu i ychwanegu at eich cynilion.

Rhybudd: Gall ad-daliad hwyr achosi problemau ariannol difrifol i chi. I gael help gyda'ch cyfrif, cysylltwch â'n tîm ar 0333 2000 601 neu ewch i www.cambriancu.com. I gael cyngor ariannol ewch i www.moneyhelper.org.uk